Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Gwahoddiad i’r Wasg Age Cymru - Sbotolau ar iechyd meddwl pobl hŷn yng Nghymru

Published on 17 Mai 2024 02:52 yh

Disgrifiad a gynhyrchwyd yn awtomatig

Ymunwch â ni i roi sbotolau ar iechyd meddwl pobl hŷn a’r amrywiaeth o fentrau sydd yn digwydd ledled Cymru.

Hoffwn eich gwahodd chi, neu eich cyd-weithwyr, i ddigwyddiad ‘Sbotolau ar iechyd meddwl pobl hŷn yng Nghymru’ sy’n cael ei gynnal yn Neuadd y Senedd (Senedd Cymru) ar y 18fed o Ebrill 2024 rhwng 12 y prynhawn a 1.30 y prynhawn.

Yn ein harolwg blynyddol diweddaraf ar gyfer pobl sy’n 50 oed neu’n hŷn yng Nghymru, dywedodd 20% o'r ymatebwyr wrthym fod iechyd meddwl gwael wedi bod yn her yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae cymorth iechyd meddwl ar gyfer oedolion hŷn wedi cael ei anwybyddu ers blynyddoedd lawer, ac rydym yn gwybod y gall pobl hŷn wynebu rhwystrau lluosog wrth geisio cael y cymorth y gallai fod ei angen arnynt.

Nod y digwyddiad yw hyrwyddo iechyd meddwl da a lles pobl hŷn yng Nghymru drwy godi proffil iechyd meddwl pobl hŷn, meithrin trafodaeth a rhannu arfer da.

Bydd y digwyddiad, a noddir yn garedig gan Mike Hedges AS, yn archwilio iechyd meddwl pobl hŷn ledled Cymru, bydd Age Cymru Powys a Gofal a Thrwsio Powys yn rhoi cyflwyniad am y gwahanol fentrau sydd ar waith, a bydd Gofalwyr Cymru hefyd yn rhoi cyflwyniad.

Yn ogystal â'r cyflwyniadau, bydd cyfle i rwydweithio a mwynhau stondinau gwybodaeth sy'n berthnasol i iechyd meddwl pobl hŷn. Bydd cinio'n cael ei ddarparu.

Os hoffech chi fod yn bresennol, cofrestrwch yma: Age Cymru - Sbotolau ar iechyd meddwl pobl hŷn yng Nghymru

Tocynnau, dydd Iau, Ebrill y 18fed, 2024 am 12:00 y prynhawn | Eventbrite

Neu cysylltwch â Rhian Morgan drwy e-bostio rhian.morgan@agecymru.org.uk neu ffoniwch 029 2043 1555 erbyn dydd Mercher, Ebrill y 10fed 2024.

Mae nifer cyfyngedig o docynnau a byddant yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

 

Last updated: Mai 17 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top