Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Elusen yn mynnu bod angen cyfyngu costau gofal cymdeithasol cynyddol i lefelau chwyddiant

Published on 13 Mai 2024 11:24 yb

Mae’n bosib fydd cynlluniau Llywodraeth Cymru yn cynyddu costau gofal cymdeithasol i £1,300 yn flynyddol

Mae Age Cymru yn annog Llywodraeth Cymru i gyfyngu costau gofal cymdeithasol cynyddol i lefelau chwyddiant.  Os bydd y llywodraeth yn parhau gyda’r cynlluniau, mae’r elusen yn rhybuddio gall pobl hŷn fod yn wynebu cynnydd o tua £15 - £25 am eu biliau gofal wythnosol, neu hyd at £1,300 y flwyddyn, er mwyn cynnal y gefnogaeth maen nhw’n ei dderbyn ar hyn o bryd.

Mae’r rheolau ‘Codi Tâl Tecach’ yn golygu mai’r uchafswm mae angen i bobl dalu am ofal cymdeithasol yn eu cartref ar hyn o bryd yw £100.

Meddai Prif Weithredwraig Age Cymru Victoria Lloyd “Rydyn ni’n poeni bydd cynyddu costau gofal yn arwain rhai pobl hŷn i gwtogi neu ganslo’r gwasanaethau gofal sy’n eu cadw nhw’n ddiogel ac yn iach.  Mae nifer o bobl yn byw ar incwm isel, sefydlog, ac maen nhw eisoes yn wynebu biliau bwyd ac ynni cynyddol yn ogystal â chostau cynyddol y dreth gyngor. 

 “Mae’n bosib fydd hyn yn cael effeithiau sylweddol ar lesiant pobl hŷn ymhob rhan o Gymru, drwy wneud gofal yn ddrutach ac effeithio ar yr arian sydd angen i bobl wario ar gostau cynyddol.  Mae hefyd yn rhoi pwysau ychwanegol ar ofal iechyd a chymdeithasol yn hwyrach.”

 “Mae angen newid y system ofal cymdeithasol a’r ffordd rydyn ni’n talu am ofal.  Ni fydd ceisio casglu arian ychwanegol wrth bobl sydd angen gofal yn gwneud digon i sicrhau’r buddsoddiad sydd angen er mwyn trawsnewid gwasanaethau”.

Dangosodd arolwg 2024 Age Cymru, a wnaeth dderbyn 1300 ymateb gan bobl hŷn, bod yna broblemau gyda’r system bresennol, gyda 52% yn dweud ei fod yn anodd neu’n anodd iawn deall y polisi codi tâl.

Nodiadau i olygyddion

Fel rheol, mae cymorth gofal cymdeithasol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi pobl i fyw bywydau mwy annibynnol, a gall gynnwys gwasanaethau fel gofal personol a gofal seibiant i ofalwyr di-dâl a’u hanwyliaid.

Mi wnaeth Llywodraeth Cymru lansio ymgynghoriad ar 19 Chwefror 2024 o’r enw Codi’r uchafswm tâl wythnosol ar gyfer gofal a chymorth amhreswyl i oedolion.  Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 13 Mai 2024, ewch i: Codi’r uchafswm tâl wythnosol ar gyfer gofal a chymorth amhreswyl i oedolion | LLYW.CYMRU

Mae gan Age Cymru ystod o daflenni ffeithiau sydd wedi'u cynllunio i gynorthwyo pobl hŷn i ddeall eu hawliau a'u cyfrifoldebau o ran gofal cymdeithasol a chodi tâl tecach: www.agecymru.org.uk/information-resources.

 

Last updated: Mai 13 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top