Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Bydd sioe deithiol Cynghrair Henoed Cymru’n ymweld â Hwlffordd ym mis Medi

Published on 16 Awst 2024 01:39 yh

Cyngor a chefnogaeth i bobl hŷn yn ystod cyfnodau heriol  

HaverHub, Yr Hen Swyddfa Bost, 12 Stryd y Cei, Hwlffordd - o 10.30am tan 2pm 

Bydd Cynghrair Henoed Cymru, casgliad o elusennau sy'n darparu gwybodaeth a gwasanaethau i bobl hŷn, yn cynnal digwyddiad sioe deithiol yn HaverHub yn Hwlffordd ar ddydd Mercher 4ydd o Fedi.  

Bydd y sioe deithiol, sy'n rhad ac am ddim, yn darparu gwybodaeth a chymorth ar ystod eang o faterion sy'n berthnasol i bobl hŷn gan gynnwys arthritis, strôc, a gofalu am berson sy'n byw gyda dementia. 

Bydd yna arddangosiad Ymarfer Corff Gweithredol Ysgafn gan Age Cymru am 1pm.  Dyma gyfres o symudiadau sy'n ymarfer y corff.  Mae'n bosib eu gwneud mewn cadair er mwyn rhoi cyfle i bobl sy'n wynebu problemau symudedd i gadw'n heini.

Meddai Chris Williams o'r Gynghrair "Rydyn ni'n gwybod bod pobl hŷn yng Nghymru yn wynebu heriau anodd iawn ar hyn o bryd.  Maen nhw'n ceisio ymdopi gydag amseroedd aros y GIG, cyfnod hir o aros cyn cael mynediad at ofal cymdeithasol, a'r argyfwng costau byw.    

"Rydyn ni'n gwybod bod yn rhaid iddyn nhw wynebu'r materion hyn yn ogystal â heriau sy'n ymwneud a heneiddio fel arthritis, colli clyw a chyfrifoldebau gofalu.  

"Fodd bynnag, rydyn ni'n sicrhau pobl hŷn nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain.  Mae yna lawer o sefydliadau sy'n barod i gynnig eu cefnogaeth.  Felly, byddwn yn annog unrhyw berson hŷn yn yr ardal, neu eu ffrindiau a'u perthnasau, i ddod i'r sioe deithiol a cheisio'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn heneiddio'n fwy cyfforddus."

Os hoffech chi fwy o wybodaeth ffoniwch Chris Williams ar 029 20431 548 neu e-bostiwch christopher.williams@agecymru.org.uk.  

Diwedd  

Nodiadau i Olygyddion 

Rhestr o arddangoswyr:  

Age Cymru Dyfed

Cymdeithas Alzheimer

Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru

Hourglass

Parkinsons

Prime Cymru

Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw

Y Gymdeithas Wirfoddol Frenhinol

Cymdeithas Strôc

Versus Arthritis

Hwb Cymunedol Sir Benfro

 

Last updated: Awst 16 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top