Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Age Cymru: Taliadau Tanwydd Gaeaf

Published on 04 Medi 2024 10:30 yb

Mae torri’r Taliad Tanwydd Gaeaf y gaeaf hwn, heb fawr ddim rhybudd a dim mesurau cydadferol i amddiffyn pensiynwyr tlawd a bregus, yn benderfyniad anghywir. Credwn y bydd miloedd o bobl hŷn yng Nghymru yn cael eu taro’n ddifrifol gan y toriad hwn.    
 
Yn arolwg blynyddol Age Cymru yn 2024 gyda dros 1300 o bobl hŷn ledled Cymru clywsom fod bron i hanner y bobl hŷn yn gweld costau byw yn her dros y 12 mis diwethaf, a bod gan dros hanner y bobl hŷn broblemau gyda’u hiechyd corfforol. Bydd hyn ond yn gwaethygu gyda thoriadau i’r cymorth ariannol hanfodol hwn yn ystod misoedd y gaeaf. 

Rydyn ni'n poeni am dri grŵp allweddol:  

  • Y bobl sydd ar eu colled oherwydd bod eu hincwm cymedrol ychydig yn rhy uchel iddynt fod yn gymwys, fel arfer oherwydd bod ganddynt bensiwn galwedigaethol bach. Mae llawer o'r bobl hyn yn fenywod.  
     
  • Pobl sydd angen defnyddio llawer o ynni oherwydd anabledd neu salwch, a/neu sy'n byw mewn cartrefi sy'n defnyddio ynni'n aneffeithlon ac sy'n costio llawer o arian i'w gwresogi.  
     
  • Rhwng 70,000 ac 80,000 o bensiynwyr yng Nghymru nad ydynt yn derbyn y Credyd Pensiwn er eu bod nhw'n gymwys oherwydd nad ydynt yn ei hawlio. Mae sicrhau bod pobl yn hawlio'r Credyd Pensiwn yn anodd ac yn broblem fawr. Tua thraean o'r holl bobl sy'n medru hawlio'r Credyd Pensiwn sy'n gwneud hynny'n gyson dros nifer o flynyddoedd. 

Dim ond tri mis o rybudd sydd wedi bod ar gyfer y newid hwn – a bydd pobl hŷn wedi disgwyl cael yr arian hwn yn eu pocedi eleni. Yn syml, nid oes digon o amser i lawer weithio allan cynllun arall. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd mwy yn cael ei wneud i annog y rhai sydd â hawl i Gredyd Pensiwn i’w hawlio ond bydd hyn yn cymryd amser ac ni fydd yn atal llawer rhag colli allan eleni. 

I wneud pethau'n waeth, nid dyma'r unig gefnogaeth gyda chostau ynni sy'n diflannu eleni sy'n golygu y gallai fod gan bensiynwyr £600 yn llai'r gaeaf hwn er bod biliau ynni'n parhau i fod yn ddrud. 

Rydym am i Lywodraeth y DU ailfeddwl eu penderfyniad ar Daliadau Tanwydd Gaeaf, ac rydym yn annog pobl i lofnodi ein deiseb gydag Age UK, sydd â thros 450,000 o lofnodion ar hyn o bryd. 

Rydym hefyd yn annog pobl hŷn i weld a ydynt yn gymwys i gael credyd pensiwn gyda thros 200miliwn mewn credyd pensiwn yn mynd heb ei hawlio yng Nghymru bob blwyddyn.  

Os cawsoch eich gwrthod o’r blaen, efallai y byddai’n dal yn werth gwneud cais newydd, wrth i gyfraddau budd-daliadau newid, ynghyd â’ch sefyllfa ariannol. 

 

Last updated: Medi 04 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top