Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Age Cymru Cap ar Brisiau Ynni 23 Awst 2024

Published on 23 Awst 2024 11:02 yb

Mae’r cyhoeddiad bod y cap ar brisiau ynni ar fin cynyddu 10% yn ergyd drom i bobl hŷn ledled Cymru ynghyd â’r cynlluniau i dorri Taliadau Tanwydd Gaeaf heb fawr ddim rhybudd a dim mesurau cydadferol i amddiffyn pensiynwyr tlawd a bregus.  

Rydym yn credu bydd miloedd o bobl hŷn ledled yn cael eu heffeithio gyda’r cynnydd, efo nifer o bobl yn dibynnu ar y Taliadau Tanwydd Gaeaf i dalu eu biliau ynni drwy gydol misoedd oerach y gaeaf. 

Rydym yn bryderus iawn y bydd rhai pobl hŷn yn cael eu temtio i droi eu gwres i lawr neu i ffwrdd er mwyn arbed arian. Gallai hyn beryglu iechyd pobl a rhoi mwy o bwysau ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y gaeaf. Bydd rhai pobl hŷn yn torri’n ôl ar eu gweithgareddau cymdeithasol i arbed arian, gan gynyddu unigrwydd ac unigedd. 

Yn arolwg blynyddol Age Cymru yn 2024 gyda dros 1300 o bobl hŷn ledled Cymru clywsom fod bron i hanner y bobl hŷn yn gweld costau byw yn her dros y 12 mis diwethaf, a bod gan dros hanner y bobl hŷn broblemau gyda’u hiechyd corfforol. Bydd hyn ond yn gwaethygu gyda thoriadau i’r cymorth ariannol hanfodol hwn yn ystod misoedd y gaeaf. 

Rydyn ni'n poeni am dri grŵp allweddol:  

  • Y bobl sydd ar eu colled oherwydd bod eu hincwm cymedrol ychydig yn rhy uchel iddynt fod yn gymwys, fel arfer oherwydd bod ganddynt bensiwn galwedigaethol bach. Mae llawer o'r bobl hyn yn fenywod. 
  • Pobl sydd angen defnyddio llawer o ynni oherwydd anabledd neu salwch, a/neu sy'n byw mewn cartrefi sy'n defnyddio ynni'n aneffeithlon ac sy'n costio llawer o arian i'w gwresogi. 
  • Rhwng 70,000 ac 80,000 o bensiynwyr yng Nghymru nad ydynt yn derbyn y Credyd Pensiwn er eu bod nhw'n gymwys oherwydd nad ydynt yn ei hawlio. Mae sicrhau bod pobl yn hawlio'r Credyd Pensiwn yn anodd ac yn broblem fawr. Tua thraean o'r holl bobl sy'n medru hawlio'r Credyd Pensiwn sy'n gwneud hynny'n gyson dros nifer o flynyddoedd.  

Yn syml, nid oes digon o amser i bobl hŷn fedru gwneud cynlluniau arall a pharatoi. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y byddant yn annog pobl sy'n medru hawlio Credyd Pensiwn i wneud hynny, ond bydd hyn yn cymryd amser felly bydd llawer o bobl ar eu colled eleni. 

I wneud pethau'n waeth, nid dyma'r unig gefnogaeth gyda chostau ynni sy'n diflannu eleni sy'n golygu y gallai fod gan bensiynwyr £600 yn llai'r gaeaf hwn er bod biliau ynni'n parhau i fod yn ddrud. 

Er mwyn helpu i wneud y mwyaf o'u hincwm, rydyn ni'n annog pobl hŷn i wirio os ydyn nhw'n gymwys i dderbyn credyd pensiwn. Bydd hyn hefyd yn galluogi pobl i gael mynediad at y Taliadau Tanwydd Gaeaf. Os cawsoch eich gwrthod o’r blaen, efallai y byddai’n dal yn werth gwneud cais newydd, wrth i gyfraddau budd-daliadau newid, ynghyd â’ch sefyllfa ariannol. 

Ffoniwch Age Cymru i gael gwybod mwy ar 0300 303 44 98 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm, e-bostiwch advice@agecymru.org.uk neu ewch i www.agecymru.org.uk/credyd-pensiwn  , neu i wneud cais am gredyd pensiwn, ffoniwch llinell hawlio credyd pensiwn AGaP ar 0800 99 1234 neu ewch i www.gov.uk/pension-credit/how-to-claim

 

Last updated: Awst 23 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top