Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Gwanwyn

Gŵyl Gwanwyn 2024 : Dathlu 'newid'. Newidiadau o bob math, a sut mae newid yn ein hysbrydoli ni i fod yn greadigol wrth i ni heneiddio.

Mae Gwanwyn yn ŵyl genedlaethol sy'n digwydd drwy gydol mis Mai bob blwyddyn, a'i nod yw arddangos creadigedd pobl hŷn. Ers 2007, mae Gwanwyn wedi gweithio gydag artistiaid a sefydliadau o bob math er mwyn hyrwyddo amrywiaeth o weithgareddau creadigol yn cynnwys comedi, gwnïo, Bollywood a chlybiau llyfrau.

Mae Gŵyl Gwanwyn yn gyfle i bobl hŷn fod yn greadigol fel ymarferwyr, trefnwyr, neu aelodau o gynulleidfa. Mae Gŵyl Gwanwyn yn helpu pobl hŷn i ddeall sut allant elwa drwy fod yn greadigol yn gorfforol ac yn feddyliol.

Y thema ym mis Mai 2024 yw 'newid'. Mae pobl hŷn sy'n sbarduno newidiadau diwylliannol yn ein hysbrydoli, a hoffwn wybod beth mae newid yn ei olygu i chi.

Prosiect Ysgogwyr Newid

Fel rhan o Ŵyl Gwanwyn, rydyn ni’n arddangos pobl hŷn sydd wedi herio stereoteipiau heneiddio, neu sydd ar flaen y gad yn eu meysydd.

Hoffwn ddarganfod eich hoff ysgogwyr newid. Ydych chi’n nabod rhywun dros 50 oed sydd wedi gwneud gwahaniaeth i chi, yn lleol, neu yng Nghymru? Beth am eu henwebu nhw a disgrifio sut maen nhw wedi gwneud gwahaniaeth. 

Mary Lloyd Jones yw un o artistiaid ac awduron mwyaf poblogaidd Cymru.

Cafodd Mary ei geni ym Mhontarfynach ym 1934 ac aeth i Ysgol Gelf Caerdydd. Cafodd ei hysbrydoli gan dirwedd Cymru, ac mae ei gwaith yn llawn dylanwad hen ddiwylliannau ac ieithoedd. Ni wnaeth hi arddangos ei gwaith yn gyhoeddus tan ei tri-degau.
Fel artistiaid eraill, roedd angen i Mary ddod o hyd i’w llais fel artist. Roedd hyn yn rhywbeth wnaeth ddatblygu’n raddol dros amser, ac roedd camau pwysig o oleuedigaeth ymhlith eu gwreiddiau dwfn yn yr iaith Gymraeg.

Yn 2016, derbyniodd Mary Wobr Glyn Dŵ r am ei chyfraniad arbennig i’r celfyddydau yng Nghymru. Ym mis Ebrill 2016, cafodd ei derbyn fel aelod o Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Derbyniodd ddwy gymrodoriaeth er anrhydedd wrth Goleg y Drindod Caerfyrddin a Phrifysgol Aberystwyth, a Doethuriaeth er anrhydedd wrth Prifysgol Cymru, Caerdydd.

Sut ydw i’n enwebu ysgogwr newid?

Lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod. Bydd hyn yn sicrhau bod gennym yr holl wybodaeth sydd ei angen arnom. Bydd angen i chi anfon llun o’r person rydych chi’n enwebu. Sicrhewch fod gennych chi ganiatâd y person cyn anfon eu llun. Os ydych chi’n anfon y llun drwy e-bost, sicrhewch ei fod ar ffurf jpeg neu png. Os ydych chi’n anfon eich llun drwy’r post, sicrhewch eich bod chi’n cynnwys y ffurflen enwebu.

Enwebiad Ysgogwr Newid

Byddwn ni’n arddangos bob enwebiad yn ein Horiel Ysgogwyr Newid ar ein gwefan.

Anfonwch eich ffurflen enwebu a’ch llun drwy e-bostio gwanwyn@agecymru.org.uk , neu postiwch y cyfan at

Age Cymru
Prosiect Ysgogwyr Newid
Tŷ’r Mariners
Llys Trident
Ffordd Ddwyrain Moors
Caerdydd, CF24 5TD

Sicrhewch eich bod chi’n cynnwys llun pan rydych chi’n cyflwyno’r cais hwn. Yn anffodus, ni fyddwn yn medru dychwelyd unrhyw luniau sy’n cael eu hanfon atom.

I gael y newyddion diweddaraf am Ŵyl Gwanwyn, ac i ddarganfod sut allwch chi fod yn rhan o’r Ŵyl, ymunwch â’r rhestr bostio drwy e-bostio gwanwyn@agecymru.org.uk

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Gwanwyn on Facebook

Gwanwyn on Twitter

 

Last updated: Mai 31 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top