Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Newidiadau i ffonau llinell dir

Mae rhwydwaith ffôn y DU yn cael ei uwchraddio, sy'n golygu bod gwasanaethau llinell dir yn newid. Byddwch chi'n dal i allu cael llinell dir yn eich cartref, ond bydd y dechnoleg sy'n ei phweru ychydig yn wahanol ac efallai y bydd angen i chi uwchraddio rhywfaint o'ch offer.


Beth sy'n newid a phryd?

Mae'r dechnoleg yr ydym yn ei defnyddio ar hyn o bryd i wneud galwadau ar linellau tir, o'r enw 'analog', yn cael ei disodli gan fersiwn sy'n seiliedig ar y rhyngrwyd, o'r enw 'rhwydwaith IP'.

Bydd llinellau tir yn dal i fodoli, a gallwch chi dal gael llinell ffôn yn eich cartref - ond bydd y system sy'n sail iddo yn wahanol.

Mae angen i'r newidiad ddigwydd erbyn Rhagfyr 2025, gan mai dyma pryd fydd yr hen dechnoleg yn rhoi'r gorau i weithio. Mae darparwyr ffôn eisoes wedi dechrau gweithio ar newid dros y rhwydwaith, ond does dim angen i chi wneud unrhyw beth nes eu bod yn cysylltu â chi.


Pam fod y newidiadau hyn yn digwydd?

Dyw'r offer sy'n cynnal y rhwydwaith llinell dir presennol yn cael ei redeg ddim yn addas ar gyfer y dyfodol ac mae angen ei uwchraddio. Bydd y system newydd yn defnyddio'r we i wneud galwadau ffôn.

Cwmnïau ffôn a band eang sy'n arwain y newid hwn. Mae'r Llywodraeth ac Ofcom (y rheoleiddiwr cyfathrebu) yn ei gefnogi.


A fydd fy ffôn llinell dir yn cael ei effeithio?

Bydd pawb sydd â llinell dir yn symud draw i'r system newydd. Does dim angen i chi wneud unrhyw beth eto - bydd eich cwmni ffôn yn cysylltu â chi.

I lawer o bobl, bydd y newid mor syml â chysylltu eu ffôn i'w llwybrydd band eang.


Ydw i'n gallu cadw fy rhif ffôn?

Ydych, yn y rhan fwyaf o achosion byddwch chi'n gallu cadw eich rhif ffôn presennol.


A fydd angen ffôn newydd gen i?

Os yw eich set llaw ffôn yn hen iawn, efallai y bydd angen i chi ei newid. Bydd eich darparwr ffôn yn gallu rhoi cyngor i chi.


A fydd unrhyw beth arall yn cael ei effeithio, fel fy teleofal?

Bydd y newid yn effeithio ar bethau sy'n defnyddio'r rhwydwaith llinell dir ar hyn o bryd - fel teleofal, larymau personol, larymau lladron a pheiriannau ffacs. Os yw eich dyfais yn gymharol fodern, dylai barhau i weithio'n iawn - ond efallai y bydd angen ad-drefnu dyfeisiau hŷn neu eu disodli.


Beth os nad oes gen i, neu ddim eisiau, y rhyngrwyd gartref?

Oherwydd bod y system newydd yn rhedeg oddi ar y we, ni fyddwch yn gallu gwneud galwadau heb gysylltiad rhyngrwyd gartref.

Os oes gennych fand eang eisoes, gallwch ddefnyddio hynny. Os nad oes gennych fand eang a'ch bod chi ddim eisiau cysylltiad rhyngrwyd cyflym, dylech gael yr opsiwn i ddefnyddio cysylltiad rhyngrwyd syml dim ond ar gyfer gwneud galwadau.


A fydd rhaid i mi dalu mwy?

Mae BT, sy'n darparu'r rhan fwyaf o linellau tir, wedi ymrwymo i beidio â chodi prisiau yn uwch na chwyddiant ar gyfer cwsmeriaid 'llais yn unig' - y rhai sydd heb fand eang yn y cartref. Mae'r ymrwymiad hwn am o leiaf y 5 mlynedd nesaf a bydd yn golygu y bydd pa bynnag dechnoleg y mae eich llinell dir yn ei ddefnyddio, yr hen system neu'r newydd, ni ddylai eich bil godi'n sylweddol.

Mae hyn yn golygu na ddylech wynebu costau ychwanegol os oes angen cysylltiad rhyngrwyd syml newydd arnoch i wneud galwadau.


Ydy hi'n wir na fydda i'n gallu gwneud galwadau ffôn os oes toriad pŵer?

Oherwydd bydd y system newydd yn gweithio oddi ar eich trydan cartref, os oes pŵer wedi'i dorri bydd yn golygu na allwch wneud galwadau ffôn. Yn yr achosion hyn, mae cwmnïau ffôn yn cynghori y dylech ddefnyddio ffôn symudol fel copi wrth gefn.

Os nad oes gennych ffôn symudol, os ydych yn byw yn rhywle lle nad oes signal neu mae’r signal yn wael, neu'n dibynnu ar eich llinell dir, er enghraifft oherwydd eich bod yn anabl, dylai eich darparwr ffôn cartref gynnig ateb i chi fel set llaw sy'n cael ei weithredu gan fatri. Bydd hyn yn golygu y gallwch chi wneud galwadau brys yn ystod toriad mewn pŵer.


Oes unrhyw beth y dylwn i fod yn ofalus ohono?

Gan fod y newid yn effeithio ar filiynau o gartrefi, gall hyn greu cyfle i droseddwyr ddatblygu sgamiau newydd. Gallai'r rhain fod dros y ffôn, drwy e-bost, neu wrth eich stepen drws.

Cofiwch y cyngor allweddol pan fydd rhywun yn cysylltu â chi ynglŷn â'r newid:

STOPIO – Gallai cymryd eiliad i stopio a meddwl cyn gwahanu o'ch arian neu wybodaeth eich cadw'n ddiogel

HER – A allai fod yn ffug? Mae'n iawn i wrthod neu anwybyddu unrhyw geisiadau. Dim ond troseddwyr fydd yn ceisio eich rhuthro

GOFALU - Cysylltwch â'ch banc yn syth os ydych yn meddwl eich bod wedi dioddef sgâm a'i riportio i Action Fraud 0300 123 2040.

Gall pobl eraill diegwyddor hefyd geisio gwerthu offer i chi neu eich annog i gofrestru ar gyfer contractau drud nad oes eu hangen arnoch. Peidiwch â rhuthro i wneud unrhyw benderfyniadau, ceisiwch ail farn, a siarad â'ch cwmni ffôn a fydd yno i'ch cynghori am yr hyn sydd ei angen arnoch.


Beth ddylwn i'w wneud os oes gen i gwestiynau?

Cymerwch olwg ar wefan Future of Voice, sydd â'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n newid a sut.

Gallwch hefyd siarad â'ch darparwr llinell dir neu ymweld â'u gwefan.

Mae'r diwydiant ffôn yn uwchraddio o linellau tir analog i ddigidol erbyn diwedd 2025. Bydd y newid yn golygu y bydd galwadau'n cael eu gwneud dros linell band eang yn lle'r hen rwydwaith analog, sy'n dod yn fwyfwy annibynadwy.

I'r rhan fwyaf ohonoch, bydd pob agwedd ar y newid yn rhad ac am ddim heb angen unrhyw waith ychwanegol yn eich cartref. Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch gyda’r newid, dylech gysylltu â'ch darparwr ffôn.

Os oes gennych wasanaethau teleofal, fel larwm galwadau, naill ai wedi'i ddarparu gan yr awdurdod lleol neu gan gwmni preifat, cysylltwch â'ch darparwr i wirio pa gynlluniau sydd ganddynt ar waith i sicrhau bod eich offer yn cael ei drosglwyddo i’r system newydd.

Rydyn ni wedi derbyn nifer o gwestiynau drwy ein llinell Gyngor, ac adborth gan rhai o’n gwasanaethau sy’n darparu cefnogaeth.  Rydyn ni wedi drafftio cyfres o gwestiynau a gwnaethom eu rhannu gyda BT er mwyn rhannu eu hatebion gyda chi.  

A fydd atalyddion galwadau, a ddefnyddir i atal sgamwyr rhag cysylltu â phobl hŷn, yn dal i weithio ar ôl newid i’r digidol?

Ni fydd angen atalyddion galwadau mwyach ar ôl newid i’r digidol. Bydd gwasanaeth newydd yn cael ei adeiladu o'r enw Hiya a fydd yn rhwystro galwadau sgâm yn awtomatig. 

Dywedodd rhai pobl eu bod wedi cael eu newid i'r system ddigidol heb rybudd ymlaen llaw.

Mae BT yn defnyddio system awtomataidd sy'n gofyn i'w cwsmeriaid roi caniatâd cyn iddynt gael eu newid. Mae’n bosib bod y caniatâd hwn wedi cael ei roi hyd at 40 diwrnod ynghynt, felly efallai bod rhai cwsmeriaid wedi anghofio eu bod nhw eisoes wedi rhoi caniatâd.

NB* Rydym wedi clywed am sawl achos lle nododd cwsmeriaid eu bod wedi cael eu trosglwyddo heb rybudd ymlaen llaw.  Os ydych chi'n credu bod hyn wedi digwydd i chi, cysylltwch â'r llinell gwynion gan ddefnyddio'r rhifau isod.

Os oes gan gwsmer hen set law y bydd angen ei ailosod, a fydd BT yn talu'r gost?

Yn anffodus, na. Rhaid i'r cwsmer dalu am y set law newydd. Fodd bynnag, bydd 99% o'r ffonau presennol yn gweithio ar y platfform digidol.

 

Pa mor hir fydd y ffonau wrth gefn yn para mewn toriad pŵer?

Mae Ofcom yn ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr ffôn ddarparu gwerth o leiaf awr wrth gefn.  Fodd bynnag, mae BT yn darparu hyd at bedair awr wrth gefn trwy becyn batri ar gyfer rhai pobl fregus.

Beth fydd yn digwydd i'r bobl hynny sy'n byw mewn ardaloedd sydd â band eang gwael?

Ar hyn o bryd mae BT yn gweithio i ddatblygu system sy’n medru ymdopi gyda band eang gwael.  Hyd nes bod y system honno wedi'i datblygu'n llawn, bydd pobl sy'n byw mewn ardaloedd o'r fath yn aros ar eu system analog.

A fydd pobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymorth fel larymau personol yn dal i allu defnyddio eu hoffer?

Mae gan BT gytundebau rhannu data gyda phob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru er mwyn cefnogi’r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymorth a sicrhau bod eu holl offer yn gydnaws.

Beth os oes angen mwy o wybodaeth arnaf neu os oes angen i mi wneud cwyn?

Gellir gofyn unrhyw gwestiynau neu nodi unrhyw gwynion drwy ffonio 150 o linell dir neu 0330 1234 150 o ffôn symudol. 

Beth am ddarparwyr ffôn eraill?

Mae Virgin Media a Talk Talk yn mynd ati i newid eu cwsmeriaid tra bod darparwyr mawr eraill yn aros i weld sut mae pethau'n datblygu. Yn y naill achos neu'r llall, mae'n well cysylltu â'ch cyflenwr trwy ddefnyddio'r rhif cyswllt ar dop eich llythyr bilio i ddod o hyd i fwy o wybodaeth.

Os hoffech rannu eich profiadau o newid i’r digidol, cysylltwch â Michael Phillips ar 07794 366224 neu e-bostiwch michael.phillips@agecymru.org.uk.

 

Last updated: Meh 17 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top