Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Oedran

Os yw rhagoriaeth gwasanaeth cwsmeriaid yn ganolog i'ch busnes, pa mor dda ydych chi'n deall anghenion pobl hŷn?

Bydd hyfforddiant ymwybyddiaeth oedran Age Cymru yn gwella dealltwriaeth a sgiliau eich staff gwasanaeth cwsmeriaid, gan wella ansawdd y gwasanaeth cwsmeriaid a ddarperir i gwsmeriaid hŷn, gan sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod eu hanghenion yn cael eu diwallu'n effeithiol.

Gyda'r hyfforddiant hwn, bydd staff gwasanaethau cwsmeriaid yn:

  • Chwalu stereoteipiau oedran
  • Deall yr heriau sy'n wynebu pobl hŷn
  • Deall sut i ddarparu gwell gwasanaeth cwsmeriaid i bobl hŷn
  • Defnyddio syniadau ymarferol i wreiddio'r gwasanaeth gwell hwn i gwsmeriaid gan sicrhau bod pobl hŷn yn cael y profiad gorau wrth dderbyn cefnogaeth gan y sefydliad.

Cost sesiwn 2.5 awr:

  • Ar-lein £350 + TAW
  • Wyneb yn wyneb £475 + TAW

Cysylltwch â policy@agecymru.org.uk neu ffoniwch 0300 303 44 98.

Gellir addasu ein hyfforddiant yn dibynnu ar anghenion sefydliadol, gan gynnwys darparu sesiwn ymwybyddiaeth oedran gyffredinol. Cysylltwch â ni i drafod.

 

 

 

 

 

Last updated: Meh 17 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top