Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Uwch Dîm Rheoli

Victoria Lloyd - Prif Weithredwraig

Ymunodd Vicki â thîm polisi Help the Aged yn 2006; penodwyd hi’n Gyfarwyddwraig Polisi a Rhaglenni Age Cymru pan ffurfiwyd yr elusen yn 2009. Daeth yn Brif Weithredwraig yn 2018 ac mae hi’n arwain cyfeiriad strategol yr elusen gan sicrhau ei fod yn gwella bywydau pobl hŷn yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae Vicki’n Gadeirydd ar Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio, Cadeirydd Cynghrair Henoed Cymru, a chynrychiolydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector. Mae Vicki’n byw yn Sir Fynwy gyda’i gŵr ac yn treulio eu hamser sbâr yn mynd am dro gyda’i chi ac yn darllen.

Amanda O'Shea - Pennaeth Gweithrediadau

Amanda yw’r Pennaeth Gweithrediadau ac mae hi’n gyfrifol am ochr weithredol Age Cymru. Mae hi’n cyflenwi llywodraethant a gwasanaethau canolog effeithiol gan gynnwys cyllid ac adnoddau dynol, gweithio gyda phartneriaid, codi arian a dosbarthu gwirfoddolwyr. Mae Amanda hefyd yn rheoli’r gwasanaeth Ffrind Mewn Angen.

Cyn ymuno gyda beth oedd bryd hynny’n cael ei alw’n Age Concern Cymru ar 3 Rhagfyr 2007, bu hi’n gweithio i Fanc Lloyds am fwy na 18 mlynedd. Roedd symud o’r sector fasnachol i’r trydydd sector yn her enfawr ond nid yw Amanda’n difaru ei phenderfyniad.

Mae Amanda gyda’i gŵr ers dros 39 mlynedd, ac maent yn caru ers eu plentyndod. Mae ganddi un mab sydd wedi mynd i’r brifysgol. Mae Amanda’n hoffi ymlacio drwy fynd â’i chŵn am dro, gwersylla, ac yn ddiweddar mae hi wedi bod yn mwynhau mynd ar wyliau tramor.

Gavin Thomas – Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau

Gav yw Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Age Cymru, ers ymuno â’r elusen yn 2014. Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad yn darparu gwasanaethau cefnogi ar gyfer elusennau ac o fewn y sector gyhoeddus. Mae Gav wedi bod yn ymddiriedolwr ar gyfer elusennau plant yn y gorffennol ac mae’n frwdfrydig am gyfiawnder cymdeithasol, yn enwedig yn ymwneud â phobl agored i niwed. Mae’n falch iawn i fod yn rhan o’r tîm sy’n darparu rhaglenni a gwasanaethau uchel eu parch o ansawdd gwych sy’n cefnogi pobl hŷn yng Nghymru.

Mae Gav yn gyfrifol am ddarpariaeth, ansawdd a datblygiad gwasanaethau Age Cymru. Mae ei rôl yn cynnwys sicrhau cyllid a chontractau gwasanaethau, cydweithredu gyda phartneriaid, cynllunio busnes strategol a chynllunio gweithredol yn ogystal â rheoli perfformiad timau. Mae Gav yn dilyn dull arweinyddiaeth drawsnewidiol er mwyn helpu eraill i gyflawni canlyniadau cadarnhaol.

Mae Gav yn briod ac mae ganddo ddau fab. Mae’n mwynhau treulio amser gyda’i deulu a’i ffrindiau, ac mae ganddo ddiddordeb mewn therapïau amgen naturiol fel ffordd o gynnal iechyd a lles. Mae’n mwynhau teithio a phrofi diwylliannau newydd, yn enwedig rhai sy’n ymwneud â bwyd! Mae Gav yn hoff o gerddoriaeth eclectig ac mae’n gefnogwr chwaraeon brwd.

Heather Ferguson - Pennaeth Polisïau a Phrosiectau

Heather yw Pennaeth Polisïau a Phrosiectau yn Age Cymru ac mae hi wedi gweithio i’r sefydliad ers dros saith mlynedd. Mae rôl Heather yn golygu goruchwylio gwaith dylanwadu Age Cymru yn cynnwys cyfathrebu, polisi, ymgyrchoedd a materion cyhoeddus. Mae gan Heather mwy na 16 mlynedd o brofiad o weithio o fewn y sectorau nid-er-elw, addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru.

Mae Heather yn wreiddiol o Rochdale, Manceinion Fwyaf, ac mae hi wedi byw yng Nghaerdydd ers bron i 20 mlynedd, pan ddaeth i astudio perfformiad lleisiol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Louise Hughes, Pennaeth Diogelu ac Eirioli

Mae Louise wedi gweithio gyda, a chefnogi, pobl hŷn ers dros 25 mlynedd yn bersonol (gofalu am berthnasau hŷn) ac yn broffesiynol.

Mae Louise wedi gweithio gydag Age Cymru ers 17 mlynedd. Roedd hi gynt yn Rheolwr Diogelu, Rheolwr Rhaglen Eiriolaeth Edau Euraidd, ac ar hyn o bryd mae hi’n Bennaeth Diogelu ac Eirioli. Fel Pennaeth Diogelu, mae hi’n goruchwylio holl waith diogelu Age Cymru yn cynnwys hyfforddiant, cefnogi a chynghori ar faterion yn ymwneud a diogelu, cynllunio strategol a pholisi. Mae hefyd ganddi gyfrifoldeb dros ddau brosiect eiriolaeth genedlaethol, HOPE (Helpu eraill i gymryd rhan ac ymgysylltu, a’r Prosiect Eiriolaeth Dementia).

Dros yr 17 mlynedd diwethaf, mae Louise wedi bod yn rhan o waith ymgyrchu i sicrhau bod deddfwriaeth yn diogelu pobl hŷn rhag camdriniaeth, a bod gwell mynediad gan bobl at eiriolaeth annibynnol.

Cyn gweithio i Age Cymru, gwnaeth Louise greu a chydlynu rhaglenni yn cynnwys Gwasanaeth Gwybodaeth, Gwasanaeth budd-daliadau lles a gwasanaeth eiriolaeth argyfwng generic sy’n seiliedig ar faterion.

 

Last updated: Ebr 29 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top