Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Swyddog Gwirfoddolwyr Rhanbarthol - De a De Ddwyrain Cymru

Swyddog Gwirfoddolwyr Rhanbarthol (Prosiect Cymorth Cymunedol)
Dosbarth: Gweinyddu
Cyflog: £14,801
Lleoliad: Hybrid (Gweithio gartref. Mae’n bosib bydd lle i chi weithio mewn swyddfa bartner)
Math o gytundeb: Cyfnod penodol tan 31 Rhagfyr 2024
Dyddiad cau: Dydd Llun 8 Gorffennaf 2024

A hoffech chi ymuno â gwasanaeth sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl hŷn yng Nghymru? Fel Swyddog Gwirfoddolwyr Rhanbarthol byddwch chi’n helpu i fodloni amcanion y Prosiect Cymorth Cymunedol drwy recriwtio, sefydlu, hyfforddi a chefnogi gwirfoddolwyr addas o fewn y rhanbarth i ddarparu cefnogaeth ar lefel gymunedol, gan weithio’n agos a chydweithredu â phartneriaid lleol.

Amdanoch chi:

  • Byddwch chi’n medru gweithio gydag eraill er mwyn darparu prosiectau a gwasanaethau llwyddiannus
  • Bydd gennych chi brofiad o recriwtio, rheoli a gweithio gyda gwirfoddolwyr
  • Bydd gennych chi brofiad o sefydlu a chynnal cydweithredu cynhyrchiol
  • Byddwch chi’n medru cynnal trafodaethau mewn amrywiaeth o lefelau tu fewn a thu allan y sefydliad.Bydd gennych chi brofiad o rwydweithio
  • Bydd gennych chi wybodaeth am wasanaethau lleol yn y sector gyhoeddus neu wirfoddol
  • Bydd gennych chi wybodaeth am amrywiaeth o ddiwylliannau, amgylcheddau a chymunedau ble mae pobl hŷn a gofalwyr yn byw

Os fyddwch chi’n llwyddiannus, byddwch chi’n:

  • Gweithredu’r cynllun recriwtio gwirfoddolwyr ar gyfer y rhanbarth
  • Prosesu holl geisiadau gan wirfoddolwyr mewn modd amserol a phroffesiynol, gan arwain darpar wirfoddolwyr drwy broses recriwtio'r Prosiect Cymorth Cymunedol
  • Sicrhau bod pob darpar wirfoddolwr yn cael eu sefydlu gydag Age Cymru a phartneriaid Prosiect Cymorth Cymunedol ar draws y rhanbarth
  • Sicrhau bod yr hyfforddiant perthnasol i gyd yn cael ei ddarparu
  • Darparu system fentora / cyfeillio ar gyfer y gwirfoddolwyr newydd
  • Sicrhau bod gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cael eu cwblhau ar gyfer pob gwirfoddolwr cyn iddynt gychwyn eu rôl
  • Darparu cefnogaeth gyfredol i wirfoddolwyr
  • Pan fydd atgyfeiriadau yn cael eu derbyn, sicrhewch fod y defnyddiwr gwasanaethau yn cael eu cyfeirio at y gwirfoddolwr mwyaf addas gan sicrhau bod gwasanaeth o safon uchel, amserol ac ymatebol yn cael ei ddarparu
  • Dod o hyd i rwydweithiau perthnasol a sicrhau eich bod yn eu mynychu, rhoi cyhoeddusrwydd i’r Prosiect Cymorth Cymunedol, sefydlu cysylltiadau cymunedol gyda rhanddeiliaid addas, a hyrwyddo’r gwasanaeth gan ddefnyddio dulliau gwahanol
  • Hyrwyddo a rhaeadru gwybodaeth, yn cynnwys esiamplau go iawn o ymyrraeth gadarnhaol gan ddefnyddio dulliau sydd ar gael
  • Cynnal cofnodion cywir a chyfredol yn y rhanbarth gan ddefnyddio ein gwasanaeth rheoli achos a chronfeydd data eraill, er mwyn darparu arolygaeth a gwerthusiad effeithiol ar gyfer y prosiect
  • Cefnogi’r broses o werthuso’r rhaglen gan ddefnyddio arolygon a holiaduron
  • Atgyfeirio ymlaen yn fewnol ac yn allanol er mwyn darparu pecyn cefnogaeth holistaidd ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau

Mi fyddai’n wych petaech chi’n medru:

  • Siarad Cymraeg (Dymunol)

Beth rydyn ni’n ei gynnig:

  • Gwyliau - 27 diwrnod, yn cynnwys 24 diwrnod o’ch dewis chi, a 3 diwrnod i’w defnyddio rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd - yn cynnwys opsiwn i gario gwyliau ymlaen i’r flwyddyn newydd.
  • Cynllun Gweithio Oriau Hyblyg
  • Pensiwn Cyflogwr
  • Sicrwydd bywyd hael hyd at bedair gwaith eich cyflog blynyddol
  • Cynllun taliad arian-yn-ôl gofal iechyd

Sut ydw i’n ymgeisio am y rôl hon?

Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn egluro sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf ar gyfer y rôl hon. Ni fydd eich ymgais yn cael ei hystyried heb y llythyr eglurhaol.


E-bostiwch eich CV a llythyr eglurhaol i hr@agecymru.org.uk

Swyddog Gwirfoddolwyr Rhanbarthol - De a De Ddwyrain Cymru - Swydd ddisgrifiad

Ffurflen Cyfle Cyfartal

Gwybodaeth ychwanegol:

Mae Age Cymru yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws partneriaeth briodasol/sifil, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau am weithio'n hyblyg.

Mae Age Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu oedolion sydd yn agored i niwed, a phlant, rhag camdriniaeth ac esgeulustod. Rydym yn disgwyl i bawb sy'n gweithio gyda ni rannu'r ymrwymiad hwn.

Anogir ceisiadau cynnar gan y byddwn yn adolygu ceisiadau drwy gydol y cyfnod hysbysebu ac yn cadw'r hawl i gau'r hysbyseb ar unrhyw adeg.

 

Last updated: Meh 19 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top