Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Swyddog Gweinyddol

Categori’r Swydd: Cymorth Gweinyddol
Lleoliad: Caerdydd
Cyflog: £24,669
Cytundeb: 35 awr yr wythnos - Cyfnod penodol tan ddiwedd mis Mawrth 2025
Dyddiad cau: 4 Tachwedd 2024

Mae Age Cymru, yr elusen genedlaethol sy’n cefnogi pobl hŷn yng Nghymru, yn chwilio am swyddog gweinyddol i ymuno â thîm llwyddiannus.  Dyma gyfle gwych i chi ddefnyddio eich sgiliau gweinyddol er mwyn sicrhau ein bod ni’n darparu gwasanaeth arbennig i bobl hŷn.

Fel Swyddog Gweinyddol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu Age Cymru i wireddu ein gweledigaeth strategol a’n cenhadaeth drwy ddarparu cefnogaeth gweinyddol.  Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i drefnu cyfarfodydd gyda phartneriaid allanol ac yn cyflawni amrywiaeth o dasgau gweinyddol a fydd yn galluogi’r Elusen i weithredu’n effeithiol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhannu eu hamser rhwng gweithio mewn swyddfa a gweithio yn eu cartrefi, felly bydd angen iddynt deithio i’r swyddfa yng Nghaerdydd yn gyson yn ôl yr angen. 

A wnewch chi anfon llythyr eglurhaol gyda’ch cais, gan egluro sut rydych chi’n ateb y meini prawf a nodwyd ym manyleb y person.  Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau heb lythyr eglurhaol.

Mi fydd gennych chi:

  • Brofiad o weithio mewn swyddfa brysur fel swyddog gweinyddol
  • Profiad o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid arbennig, yn fewnol ac allanol
  • Dull cadarnhaol a hyderus wrth ryngweithio
  • Profiad o gadw cofnodion, defnyddio taenlenni a chronfeydd data, a delio gyda gwybodaeth gyfrinachol
  • Y gallu i weithio’n hyblyg ac yn rhagweithiol ar eich liwt eich hun ac fel rhan o dîm
  • Sgiliau ysgrifenedig a llafar gwych
  • Rydych chi’n deall sut i weithio gyda phecyn Microsoft Office 365.

Beth rydym yn ei gynnig:

  • Cyflog cystadleuol, 27 diwrnod o wyliau blynyddol + gwyliau banc + cynllun prynu gwyliau blynyddol
  • Cynllun pensiwn rhagorol, yswiriant bywyd, cynllun iechyd arian yn ôl ac EAP.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Efallai y bydd gofyn i ddeiliad y swydd deithio mewn car ledled Cymru ynghyd â theithio achlysurol ehangach o fewn y DU/dramor a gweithio rhai oriau anghymdeithasol. Bydd y gofynion hyn yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Mae Age Cymru yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac mae'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys a phriodol, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws partneriaeth briodasol/sifil, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau am weithio'n hyblyg.

Mae Age Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu oedolion a phlant sy’n agored i niwed, rhag camdriniaeth ac esgeulustod. Rydym yn disgwyl i bawb sy'n gweithio gyda ni rannu'r ymrwymiad hwn.

Anogir ceisiadau cynnar oherwydd byddwn yn adolygu ceisiadau drwy gydol y cyfnod hysbysebu ac yn cadw'r hawl i gau'r hysbyseb ar unrhyw adeg.

Mae Age Cymru yn gofyn yn gwrtais i asiantaethau recriwtio a gwerthiant cyfryngau beidio â chysylltu. Nid ydym yn derbyn CVs hapfasnachol gan asiantaethau recriwtio nac yn derbyn y ffioedd sy'n gysylltiedig â nhw.

Sut ydw i’n ymgeisio ar gyfer y swydd hon?

Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn egluro sut rydych chi’n ateb y meini prawf ar gyfer y swydd hon a pham yr hoffech weithio i Age Cymru. Ni fyddwn yn ystyried eich cais heb lythyr eglurhaol.

E-bostiwch eich CV a’r llythyr eglurhaol at hr@agecymru.org.uk

Disgrifiad swydd

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

 

Last updated: Hyd 23 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top