Gweinyddwr Prosiect
Categori Swydd: Gweinyddol
Lleoliad: Hybrid (Cartref / Caerdydd)
Cyflog: £24,669
Math o Gytundeb: Cyfnod Penodol tan 31 Rhagyfr 2024
Patrwm gwaith: 35 awr Dydd Llun i ddydd Gwener.
Dyddiad cau: Dydd Llun 8 Gorffennaf 2024
Hoffech chi ymuno â gwasanaeth sy'n gwneud gwahaniaeth i bobl hŷn yng Nghymru? Fel Gweinyddwr Prosiect byddwch yn darparu cymorth gweinyddol i'r Prosiect Cymorth Cymunedol yn unol â gofynion y gwasanaeth cymunedol Cynorthwyo a Chysylltu â’r gwasanaeth cymorth dros y ffôn Gwrando a Chysylltu.
Amdanoch chi:
- Bydd gennych brofiad o weithio mewn rôl weinyddol, gan gynnwys cynnal cyfarfodydd, paratoi papurau ac agendâu, cymryd cofnodion
- Byddwch yn gallu gweithio gydag eraill i ddarparu prosiectau a gwasanaethau llwyddiannus
- Bydd gennych brofiad o gynnal a gwerthuso cyfarfodydd a digwyddiadau
- Byddwch yn gallu trin data cyfrinachol a sensitif yn broffesiynol ac yn briodol
- Byddwch yn canolbwyntio ar fanylion a'r gallu i weithio i'r safonau a'r gweithdrefnau gofynnol heb oruchwyliaeth
- Bydd gennych brofiad o gynhyrchu adroddiadau a dogfennau eraill i safon broffesiynol
- Byddwch yn gallu addasu i amgylchiadau sy'n newid, aml-dasgio a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar flaenoriaethau a gofynion newydd.
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn:
- Darparu cefnogaeth weinyddol i'r Prosiect Cymorth Cymunedol
- Cefnogi cyfarfodydd mewnol ac allanol, gan gynnwys rheoli dyddiaduron, cylchredeg agendâu a phapurau a drafftio cofnodion
- Cynorthwyo gydag unrhyw ddigwyddiadau allanol. Mae hyn yn cynnwys llunio rhestrau gwahoddiadau, archebu lle a dulliau teithio, monitro gwariant, dosbarthu deunyddiau ar gyfer digwyddiadau, a darparu cymorth gydag unrhyw offer
- Ymgymryd â gweithgareddau cyllid amrywiol yn ôl yr angen, fel codi gorchmynion prynu ac anfonebau
- Cefnogi prosesau recriwtio, gan gynnwys gosod hysbysebion a hyrwyddo trwy'r cyfryngau cymdeithasol
- Sicrhau bod prosesau casglu data yn cael eu dilyn ac adroddiadau yn cael eu creu er mwyn darparu data dangosyddion perfformiad allweddol i gyllidwyr a rhanddeiliaid
- Sicrhau bod offer gwerthuso priodol ar waith a bod adroddiadau gwybodaeth yn cael eu creu a'u darparu yn ôl yr angen.
Byddai’n wych petaech gennych:
- Y gallu i siarad Cymraeg (dymunol)
Sut ydw i’n ymgeisio ar gyfer y swydd hon?
Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn egluro sut rydych chi’n ateb y meini prawf ar gyfer y swydd hon. Ni fyddwn yn ystyried eich cais heb lythyr eglurhaol.
E-bostiwch eich CV a’r llythyr eglurhaol at hr@agecymru.org.uk
Ffurflen Monitro Cyddraddoldeb ac Amrywiaeth
Yr hyn rydym yn ei gynnig i chi:
- Gwyliau blynyddol – 27 diwrnod yn cynnwys 24 diwrnod dewisol a 3 diwrnod i'w defnyddio rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd – Gan gynnwys amser i’w gario ymlaen
- Cynllun Gweithio oriau hyblyg
- Pensiwn cyflogwr
- Sicrwydd bywyd hael hyd at bedair gwaith eich cyflog blynyddol
- Cynllun arian parod gofal iechyd.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae Age Cymru yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas a chymwys, beth bynnag eu hoed, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, os ydynt wedi ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol/partneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau i weithio'n hyblyg.
Mae Age Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu oedolion sydd yn agored i niwed, a phlant, rhag cael eu cam-drin a'u hesgeuluso. Rydym yn disgwyl i bawb sy'n gweithio gyda ni rannu'r ymrwymiad hwn.
Rydyn ni’n eich annog i wneud cais yn gynnar oherwydd byddwn yn adolygu ceisiadau drwy gydol y cyfnod hysbysebu ac yn cadw'r hawl i gau'r hysbyseb ar unrhyw adeg.
Mae Age Cymru yn gofyn yn gwrtais i asiantaethau recriwtio a chwmnïoedd gwerthiant cyfryngau beidio â chysylltu â ni ynghylch y cais. Nid ydym yn derbyn CVs hapfasnachol gan asiantaethau recriwtio nac yn derbyn y ffioedd sy'n gysylltiedig â nhw.